/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Bachgen, 16, wedi boddi tra ar wyliau yn Llandudno - cwest

AthrunFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fea aeth Athrun Lombardo ar goll ar 10 Mai tra'n aros yn Llandudno gyda'i deulu

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed fod bachgen bregus yn ei arddegau wedi boddi tra ar wyliau yn Llandudno.

Bu'r gwasanaethau brys yn chwilio ar y tir a'r môr yn dilyn adroddiadau fod Athrun Lombardo, 16 oed, wedi mynd ar goll ar 10 Mai tra'n aros yn Llandudno gyda'i deulu.

Cafodd y bachgen, oedd yn awtistig ac yn byw gyda dyspracsia ac anghenion ychwanegol, ei weld diwethaf ger traeth Pen Morfa yn gwisgo siorts nofio glas.

Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, cafodd ei gorff ei ganfod yn y môr ac fe wnaeth parafeddyg yng ngorsaf bad achub Conwy gadarnhau ei farwolaeth.

Yn dilyn archwiliad post-mortem, fe wnaeth patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Jonathan Medcalf nodi mai boddi oedd achos cychwynnol y farwolaeth.

Wrth agor y cwest yn Rhuthun ddydd Llun, fe wnaeth John Gittins, Uwch grwner Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, ddweud bod y teulu, o Fryste, wedi bod yn ymweld â rhieni Mrs Lombardo yn Llandudno ac roeddent yn aros mewn AirBnB.

Cafodd y cwest ei ohirio ac nid oes dyddiad wedi ei bennu ar gyfer y gwrandawiad nesaf ar hyn o bryd.