/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Malcolm Uphill: Y gŵr o Gaerffili a dorrodd record byd TT Ynys Manaw

Malcolm UphillFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Be' sy'n cysylltu sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Aneurin Bevan, y protestiwr Dic Penderyn a'r peilot nodedig Ernest Willows?

Yr ateb yw peints.

Mae'r triawd ymhlith dwsinau o enwogion sydd bellach â'u henwau yn disgleirio uwchben drysau tafarndai Cymreig.

Dyma sy'n ein tywys ni i dref hynafol Caerffili a'r dafarn sy'n eistedd yn falch ar gopa'r stryd fawr, nid nepell o'r orsaf drenau: Y Malcolm Uphill.

Pwy oedd Malcolm Uphill?

Mae'n deg dweud na fydd y mwyafrif o rheini sy' 'di yfed diferyn yno yn ymwybodol o hanes un o fawrion byd beicio modur y Deyrnas Unedig.

Malcolm Uphill oedd yr unigolyn cyntaf ar feic cyffredin i gwblhau ras TT Ynys Manaw ar gyflymdra o 100mya ac mae ei ddylanwad ar y gamp yn parhau hyd heddiw.

Malcolm UphillFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Malcolm Uphill yn 1966

Cafodd Uphill ei eni ar gyrion dinas Newcastle yn 1935. Bu farw ei fam yn fuan wedi ei enedigaeth a cafodd ei fabwysiadu gan Ernest a Doris Uphill o Drecennydd, Caerffili.

Dioddefodd haint i'w glust a olygodd ei fod yn gwisgo teclyn clywed ar hyd ei oes. Magodd ddiddordeb cynnar mewn beiciau modur wrth ddechrau gweithio yn siediau rheilffordd Caerffili.

Ar ras i Ynys Manaw

Erbyn y 60au cynnar roedd Uphill wedi prynu ei feic cyntaf ac yn rasio'n gyson o amgylch Cymru a de orllewin Lloegr. Ond ei uchelgais mawr oedd i gystadlu yn TT Ynys Manaw.

Fe orffennodd yn y 14eg safle yn ei ymddangosiad cyntaf yn 1962. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd yn sefyll ar ail ris y podiwm.

Does dim modd osgoi'r ffaith mai ras TT Ynys Manaw yw ras mwyaf brawychus a pheryglus y byd chwaraeon.

Mae'n ras unigryw, sy'n tywys y cystadleuwyr ar heolydd cyffredin trwy bentrefi a threfi yn hytrach nac ar gwrs pwrpasol.

Ras TTFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae raswyr y TT yn teithio ffyrdd drwy Ynys Manaw

Ers sefydlu'r ras yn 1911 mae 270 o feicwyr wedi colli eu bywydau. Yn wir, 1982 yw'r unig flwyddyn yn hanes y gystadleuaeth pan na fu unrhyw farwolaethau yn ystod wythnos y rasio.

Roedd Uphill yn llwyr ymwybodol o'r peryglon, ond gyda'r awch i lwyddo yn llosgi'n gryf, llwyddodd i ennill mewn dau gategori gwahanol yn 1965.

Dychwelodd i Gaerffili yn arwr ac roedd yn ail yng nghystadleuaeth Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru, y tu ôl i'r chwaraewr rygbi Clive Rowlands.

100mya... ar feic siop

Daeth uchafbwynt gyrfa Uphill yn 1969 pan lwyddodd i ennill y TT ar feic production.

Beiciau cyffredin yw rhain y gellid eu prynu gan bawb yn y siop yn hytrach na beiciau rasio sydd wedi eu hadeiladu'n bwrpasol ar gyfer rasio.

Fe lwyddodd i gyrraedd cyfartaledd o 100 milltir yr awr. Ystyriwch hyn: rasio beic modur ar heolydd cyhoeddus am rhyw 12 milltir, ac hynny ar gyflymdra o 100mya!

Fe newidiodd cwmni Dunlop enw eu teiars i'r TT100 i nodi mawredd llwyddiant Uphill.

Diwedd y daith

Blwyddyn yn ddiweddarach, dioddefodd ddamwain ddifrifol tra'n cystadlu yn yr Ulster Grand Prix. Daeth hyn â'i yrfa i ben, ymddeolodd gan droi ei olygon at ei waith yn gosod drysau rolio.

Plac Malcolm UphillFfynhonnell y llun, Llio Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Y plac i Malcolm Uphill ger gorsaf drenau Caerffili

O ystyried holl beryglon ei gamp, mae 'na dristwch creulon i'r ffaith mai nid beicio modur oedd yn gyfrifol am farwolaeth Malcolm Uphill ond yn hytrach y gwaith a dalodd ei filiau cyn troi at rasio.

Bu farw Malcom Uphill yn 1999 o ganlyniad i wenwyno Abestos. Y gred yw taw ei waith yn y siediau rheilffordd oedd yn gyfrifol am ei salwch.

Cafodd ei gladdu ym mynwent Machen ac mae 'na blac yn cofnodi ei hanes wedi ei chodi yn nhre Caerffili.

Felly y tro nesaf y byddwch yn ymweld â'r castell godidog ac yn teimlo'r awch am lymaid bach o gwrw, cofiwch bod 'na rheswm da eich bod yn yfed yn y Malcolm Uphill.

Pynciau cysylltiedig