/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Arestio dau ym Môn ar ôl i'r heddlu ganfod arfau

Cafodd dau ddyn lleol eu harestio ym Mhorthaethwy bore GwenerFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dau ddyn lleol eu harestio ym Mhorthaethwy fore Gwener

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ym Môn ar amheuaeth o fod ag arfau yn eu meddiant yn ardal Porthaethwy.

Cafodd swyddogion heddlu eu hanfon i Ffordd Tysilio, Porthaethwy am 09:00 fore Gwener ble cafodd dau ddyn lleol eu harestio.

Mae'r dynion, 30 a 21 oed, hefyd wedi'u harestio ar amheuaeth o ladrad.

Dywedodd y llu bod nifer o arfau wedi'u darganfod a bod eu hymchwiliadau'n parhau.

Ymchwiliadau'n parhau

Dywedodd yr Uwcharolygydd Arwel Hughes: "Mae dau ddyn yn parhau yn y ddalfa tra bod ein hymholiadau'n parhau.

"Dwi'n ddiolchgar i bobl leol am eu cefnogaeth a'u hamynedd y bore yma.

"Ni fyddwn yn goddef ymddygiad treisgar a byddwn yn mynd ar ôl yr unigolion hynny sy'n ceisio achosi dioddefaint i bobl eraill a'n cymunedau.

"Bydd presenoldeb yr heddlu yn parhau tra byddwn yn cynnal ein hymchwiliadau.

"Bydd rhagor o waith plismona yn cael ei gynllunio yn yr ardal yn y dyfodol, a byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon am eu hardal leol i gysylltu â ni."

Pynciau cysylltiedig